Cyfrifiad 2011; nid yr iaith yw’r broblem | Census 2011; it’s not the language.

Yn dilyn cyhoeddiad Cyfrifiad 2011 a chwymp yn y nifer o bobl sy’n siarad Cymraeg mae nifer, gan gynnwys, Cefin Campbell a sefydlodd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn 1991, yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu comisiwn i edrych ar sefyllfa’r iaith ar draws Cymru a pham y mae Llywodraeth Cymru wedi methu cyrraedd ei tharged o godi’r nifer sy’n siarad Cymraeg i 26% erbyn 2011.

Er fy mod i’n cytuno bod angen i’r Llywodraeth ymateb, nid yw’r sefyllfa mor ddu a gwyn a safbwynt Cymdeithas (a Plaid Cymru) ar y mater.

I raddau, does gan y cwymp mewn niferoedd llawer i wneud gyda’r iaith ei hun. Mae ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Ne Cymru yn orlawn, mae yna gymunedau yn dal i fod yn uniaith Gymraeg ac mae’r niferoedd sy’n gallu siarad Cymraeg o ganlyniad i ddarpariaeth addysg Gymraeg wedi cynyddu.

Ond os na allwn ni fynd ati i newid defnydd yr iaith yng Nghymru, be allwn ni ei wneud i ddangos gwir ddefnydd o’r Gymraeg yn y Gymru gyfoes?

Darpariaeth yw’r brif agwedd yma. Darpariaeth o gartrefi fforddiadwy, swyddi o safon a chysylltiadau trafnidiaeth o safon – yn fyr, cymunedau cynaliadwy sydd yn medru cadw eu pobl ifanc yn eu cymunedau i weithio ac i fyw. Heb gartrefi fforddiadwy na swyddi o safon yng nghefn gwlad, mae’r dinasoedd yn medru eu denu drwy gynnig swyddi a chyfleoedd i bobl ifanc.

Mae angen hybu datblygiad swyddi yng nghefn gwlad Cymru trwy annog busnesau i sefydlu mewn cymunedau trwy buddsoddi mewn broadband a chysylltiadau ffonau symudol sydd fawr ei hangen. Mae gwella gwasanaethau trafnidiaeth yn bwysig er mwyn sicrhau bod teuluoedd difreintiedig cyflogedig yn gallu dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn hytrach na gorfod talu i redeg ceir.

Mi fydd polisi newydd morgeisi’r Democratiaid Rhyddfrydol yn helpu pobl sy’n prynu ty am y tro cyntaf, ac yn rhoi hwb i’r sector adeiladwaith gan greu rhagor o dai, swyddi ac adfywio’r economi.

Adeiladwaith y gymuned sy’n bwysig i achub yr iaith, a hynny yw’r ffordd ymlaen.

 

_______________________________________________________________________

 

Following the publication of the Census 2011 and the decline in the number of Welsh speakers, many people, including Cefin Campbell, who first established the first Menter Iaith in Cwm Gwendraeth in 1991, are calling on the Government to establish a commission to look at the state of the language across Wales, and why the Government failed to meet its target of 26% of the population speaking Welsh by 2011.

Despite agreeing that the Government needs to respond to the decline, the situation isn’t as black and white as Cymdeithas (and Plaid for that matter) would have you believe.

To an extent, the decline in numbers has little to do with the language itself. Welsh medium schools in South Wales are over-subscribed, communities across Wales are still Welsh language communities, and the number of people that are able to speak Welsh, as a result of the education system, has increased.

However, if we can’t tackle the language, what can we do to show the true extent of the language in contemporary Wales?

Provision is key. Provision of affordable housing, quality and well-paying jobs, and adequate transport links – in short, sustainable communities that are able to retain their young people and enable them to work and live in their communities. Without affordable housing or adequate jobs, larger towns and cities provide jobs that can pay for housing and access to other opportunities.

Encouraging businesses to set up in our communities by setting up high-speed broadband and mobile phone signal. Improving transport services so that the ‘working poor’ can rely on public transport, rather than having to pay to run a car.

The Welsh Liberal Democrat policy on mortgages for first time buyers will give a welcome boost to the construction sector and create more housing, jobs, and act as a stimulus to the economy.

Community structure is paramount in saving the Welsh language, and that is our way forward.